Cyflwynwyd yr ymateb hwn i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)

This response was submitted to the Children, Young People and Education Committee on the Welsh Language and Education (Wales) Bill

WLE 14
Ymateb gan: Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG)
Response from: Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG)

 

Diolch am y cyfle i gyflwyno tystiolaeth lafar mewn perthynas â’r Bil dan sylw.

Dymunwn nodi ambell sylwad mewn ymateb.  

1. Cefndir Rhieni Dros Addysg Gymraeg

1.1  Mudiad yw Rhieni Dros Addysg Gymraeg (RhAG) sy’n cynrychioli budd rhieni a gofalwyr disgyblion mewn ysgolion Cymraeg a’r rhai sydd am weld twf ysgolion Cymraeg ac addysg Gymraeg ar draws Cymru.
 
                                                                                                                 
1.2  Rydym yn fudiad sy’n cynrychioli ac yn eiriol dros rieni a gofalwyr sydd â phlant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a hefyd y rhai hynny sydd heb ystyried neu heb gychwyn eu taith trwy addysg Gymraeg eto. Ystyriwn felly fod pob rhiant a gofalwr yn gymwys i’n cymorth a’n cefnogaeth fel mudiad, o’r cyfnod cyn geni a thrwy yrfa addysgol eu plant a phob rhiant yn haeddu bod yn llwyr ymwybodol o fanteision, darpariaeth a deilliannau ieithyddol addysg Gymraeg yn eu hardal o’r cychwyn.                                                                                                                        
1.3  I’r perwyl hwn, gweithia RhAG drwy hyrwyddo ac ymgyrchu i gynyddu hygyrchedd addysg Gymraeg ledled Cymru a hynny trwy amrywiol ffyrdd. Rhown gymorth i rieni a gofalwyr yn uniongyrchol ac fe weithiwn yn agos gyda phartneriaid yn y trydydd sector yn ogystal ag awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod addysg Gymraeg yn dod yn fwy hygyrch i deuluoedd, a bod hyrwyddo manteision addysg Gymraeg yn cael ei wneud yn helaeth ar hyd a lled Cymru ac mewn amrywiol ffyrdd. Gwneir hyn drwy hyrwyddo’n allanol ar y cyfryngau cymdeithasol a gwefannau ond hefyd drwy gynnig cyngor ar sut i wella mecanwaith y gyfundrefn addysg drwy rannu arfer dda ardaloedd eraill dros Gymru. Rhaid i holl systemau llywodraeth ganolog a lleol fod yn hawdd a diffwdan i deuluoedd fedru cael mynediad hawdd i addysg Gymraeg i’w plant. Golyga hyn gynyddu darpariaeth addysg Gymraeg yn barhaus.                                                                                                              
1.4  Ers cychwyn cylch newydd y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCAu) ym Medi 2022, mae RhAG wedi cymryd rôl weithredol yn cyfrannu at y gwaith o lunio’r cynlluniau ers 2021, yn ymateb i’r ymgynghoriadau rhwng 2021 a 2022 ac yna’n cynorthwyo gyda’r gwaith o’u cefnogi, eu datblygu a’u gweithredu ym Medi 2023 drwy gael presenoldeb ar Fforymau Addysg Gymraeg y rhan fwyaf o siroedd ar draws Cymru.                                                                                                             
1.5  Mae gan RhAG orolwg clir ar y rhan helaeth o gynlluniau ar draws Cymru – er nid pob un. Mewn ambell sir, mae wedi bod yn anodd cael cydweithrediad yr Awdurdod Lleol i fedru cyfrannu at waith y Fforymau Addysg Gymraeg er mwyn i safbwynt rhieni gael llais dyledus. Yn achosion y siroedd hyn, rydym ond wedi gallu ymateb i sefyllfaoedd yn adweithiol. Ein gobaith felly fydd gallu gweld pob sir yn gweithredu’n rhagweithiol wrth i’r ddeddfwriaeth hon gael ei datblygu a’i gweithredu.

1.6  Rydym yn falch o weld cyhoeddi deddfwriaeth hirddisgwyliedig sy’n dod â chyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth arwyddocaol i’r system addysg yng Nghymru ac yn wir i ddatblygu’r Gymraeg ac yn benodol addysg Gymraeg. O’r diwedd gwelwn Addysg a’r Gymraeg yn cael eu cysylltu mewn statud, gyda chyfleoedd gwirioneddol i osod mewn cyfraith y gallu i gynllunio’n fwriadus dros ddatblygiad pellach addysg Gymraeg. Mae cyfle i’r ddeddfwriaeth hon weddnewid addysg yng Nghymru ac yn wir sefydlu cyfundrefn drochi cynnar a hwyr arloesol o fewn maes caffael ieithoedd lleiafrifedig y byd.

1.7 Wrth lunio deddfwriaeth newydd, rhaid gweld yn glir bod y ddeddfwriaeth newydd yn cryfhau o’r ddiwethaf. Tra bod yna symud ymlaen amlwg wedi digwydd yn y ddeddfwriaeth hon, sylwn bod yna lithro yn ôl mewn mannau.                                      

2. Beth oeddem am weld y bil hwn yn ei gyflawni?                                 

2.1 Nodwyd yn ein hymateb i’r papur gwyn y dylai egwyddor craidd y ddeddfwriaeth hon sicrhau galluogi holl ddysgwyr Cymru – o Fôn i Fynwy, gael mynediad diofyn at addysg cyfrwng Cymraeg. Nodir yn glir gan Lywodraeth Cymru, dro ar ôl tro, mai cynyddu cyfleoedd i ddysgwyr fedru caffael y Gymraeg fel eu bod yn medru ei defnyddio’n rhwydd a hyderus yw sail eu huchelgais, er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr ac y mae dogfen canllawiau Cynlluniau Strategol Cymraeg Mewn Addysg Gymraeg bresennol Llywodraeth Cymru’n ategu fel hyn      

“Mae Cymraeg 2050 yn glir mai trochi cyfrwng Cymraeg - sef lle mae cyfrwng yr addysgu a'r dysgu yn cael ei gyflwyno'n gyfan gwbl neu'n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg - yw'r model mwyaf dibynadwy ar gyfer creu siaradwyr Cymraeg gyda'r sgiliau a'r hyder i ddefnyddio'r iaith yn gyfforddus yn eu bywydau bob dydd.”[1] 

3. Sylwadau ar y Bil

Egwyddorion cyffredinol Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) a’r angen am ddeddfwriaeth i gyflawni’r bwriad polisi a nodir.

Rhan 1: Hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg.

3.1 Cytunwn ag egwyddorion rhan 1 y Bil. Y mae’n gosod cyd-destun byw o’r Gymraeg mewn statud ac yn cadarnhau’r delfryd o sicrhau bod y Gymraeg yn iaith gymunedol, hyfyw, sydd yn cael ei defnyddio’n ddyddiol gan holl drigolion Cymru.

3.2 Cytunwn fod angen pennu targedau ar gyfer addysg Gymraeg (1(c) ) ond pryderwn am sut y mae’r bil yn gosod y diffiniad o addysg Gymraeg yn RHAN 3. Ymhelaethwn ar hyn yn Rhan 3.

3.3 Dymunwn weld mwy o fanylion ynghylch cynnwys defnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd wrth gyfrifo siaradwyr. Y mae gwlad y Basgiaid yn defnyddio dull cymdeithasol o gyfri siaradwyr drwy gynnal arolwg stryd yn rhan o’r cyfri gan wrando ar iaith sgyrsiau a glywir dros gyfnod penodol. Dylid ystyried hyn wrth ddatblygu’r ddeddfwriaeth ymhellach.

3.4 Cytunwn â’r egwyddor o adolygu safonau’r Gymraeg yn enwedig y safonau hybu. Y mae’n hanfodol dangos y cyswllt sydd rhwng hybu a chynnydd yn y defnydd.

3.5 Mae’n rhaid bod rhieni/gofalwyr yn deall yn glir beth yw hyd a lled sgiliau ieithyddol eu plant. Mae hyn yn hynod bwysig pan mae rhieni yn llenwi’r cyfrifiad er enghraifft. Mae’n hanfodol sicrhau bod dulliau cyfrifo siaradwyr Cymraeg yn gyson ac yn ddibynadwy ac yn rhoi llun eglur o hyfywedd y Gymraeg o fewn ein cymunedau. Pwysig hefyd yw gonestrwydd darpariaeth fel nad yw rhieni yn cael eu camarwain wrth wneud ceisiadau i ysgolion.

3.6 Nid yw’r rhan gyntaf yn nodi unrhyw fanylion ynghylch y gweithlu. Mae angen edrych yn fanylach ar hyn. Heb fod yna weithlu dwyieithog, sut y mae disgwyl i’r boblogaeth fedru gallu defnyddio’r Gymraeg yn hwylusach?

3.7 Mae cyfle yn y rhan hon i osod gweledigaeth glir wrth hybu a hwyluso gan Lywodraeth Cymru. Mae angen cysoni delfryd y Bil hwn gyda’r negeseuon hybu a ddaw o’r canol. Mae angen bod deilliannau ieithyddol y system addysg bresennol yn eglur i rieni/gofalwyr. Yn rhy aml cawn rieni/gofalwyr yn tybio bod addysg cyfrwng Saesneg yn cynhyrchu siaradwyr hyfedr. Mae angen hefyd mynd i’r afael â’r rhagfarnau sydd yn bodoli o hyd am addysg Gymraeg.

Rhan 2: Disgrifio gallu o ran y Gymraeg

3.5 Tra cytunwn y byddai’n ddefnyddiol cael fframwaith safonol ar gyfer cysoni dealltwriaeth o hyfedredd ieithyddol ac i ennyn dilyniant ieithyddol ar hyd continwwm, rhaid gwerthfawrogi bod ysgolion Cymraeg wedi bod yn defnyddio fframwaith llythrennedd yn llwyddiannus i dywys plant ar hyd eu taith i gaffael y Gymraeg ers degawdau. Pwysig felly, yw sicrhau bod y fframwaith newydd yn un sydd yn addas at yr oedran o’r blynyddoedd cynnar hyd at ôl 16 a thu hwnt a bod y fframwaith yn cydweddu gydag anghenion cymwysterau. 

Rhan 3: Addysg Cyfrwng Cymraeg

3.6 Ymddengys fod  canllawiau’r Pwyllgor hwn ei hun yn drysu rhwng y term Addysg Cyfrwng Cymraeg ac Addysg Gymraeg. Mae’r Cylch Gorchwyl yn nodi Addysg Cyfrwng Cymraeg fel RhAN 3 ond yn wir Addysg Gymraeg yw teitl yr adran yn y Bil. Amlyga hyn ein pryder am ddifiniad addysg Gymraeg y Bil fel ag y mae yn adran 8 (2) sydd yn nodi

(2) At ddibenion y Rhan hon—

(a) ystyr “addysg Gymraeg” yw—

(i) addysgu’r Gymraeg, a

(ii) addysg a hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg,

mewn ysgol, i ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol;

Gair pwysicaf y rhan hwn yw’r gair “a” gan fod y Bil yn amlwg am gyplysu a chyfuno’r ddau fath o “addysg Gymraeg” o fewn yr un diffiniad ar gyfer pwrpas bod yn gryno wrth gyflwyno’r ddeddf mae’n siŵr.  Ond nodwn y perygl yma o fod yn gamarweiniol, yn hytrach na gwneud pethau’n eglurach i’r cyhoedd. Yn wir y mae’n cymhlethu ystyr y term addysg Gymraeg ac yn wir yn peri trafferthion nes ymlaen yn y Bil gan ddefnyddio’r term yn rhy llac a chyffredinol o lawer heb fanylu digon ar y ddau fath o “addysg Gymraeg” wrth sôn am “addysg Gymraeg.”  Y mae’r term addysg Gymraeg wedi hen sefydlu fel y system addysg drochi gyflawn. Mae’r diffiniad newydd hwn yn peryglu term sydd wedi ei dderbyn gan rieni a gofalwyr. Mae perygl i’r deilliannau ieithyddol gael eu cymhlethu ymhellach gyda’r diffiniad hwn.

Nid yw’r bil y cyfeirio yn unman at ysgolion Cymraeg nac yn wir at addysg cyfrwng Cymraeg. Rhaid gofyn pam? Pam fod y Bil yn anwybyddu’r union sector sydd wedi bod yn tyfu dros y degawdau diwethaf? Pam fod geiriad y Bil yn ymddangos i lithro’n ôl - cysyniad sydd yn cael ei nodi fel un na ddylid digwydd yn ôl canllawiau presennol y categorïau iaith.

Defnyddir y term “pennu’r ddarpariaeth” yn y Memorandwm Esboniadol. Awgrymwn fod angen amlygu’r gwahaniaeth wrth ddiffinio addysg Gymraeg a darpariaeth Gymraeg yn y rhan hwn yn gadarnach.

3.7 Eto, yn adran 9 (2) nid oes categori sy’n cydnabod ysgolion penodedig fel y’i hadnabyddir ar hyn o bryd. Rhaid taw ysgolion penodedig Cymraeg yw’r delfryd a’r prif gategori, gan mai'r ysgolion hyn, fel y cydnabyddir gan Lywodraeth Cymru, sydd yn cynhyrchu siaradwyr hyfedr. O’r garfan hon y mae’r cyfle pennaf i feithrin gweithlu addysg ddwyieithog i’r dyfodol. Nid yw’r categori Prif Iaith - Cymraeg yn gwarantu mwy nag ychydig dros hanner y ddarpariaeth yn y Gymraeg fel a nodir ar hyn o bryd. Mae’n hanfodol felly bod categori yn cael ei ychwanegu i gydnabod ysgolion Cyfrwng Cymraeg, gan ddiffinio’n gadarn y ganran uchaf a hynny ar flaen y bil.

3.8 Rhaid cydnabod nad yr addysgu yn y dosbarth yn unig sydd yn creu siaradwyr Cymraeg hyfedr. Y mae holl ethos yr ysgol, y sgyrsiau a geir ac a glywir gyda staff addysgu a staff ychwanegol yr ysgol, y rhai sydd yn gweini cinio, y rhai sydd yn cynnal clybiau cyn ac ar ôl oriau ysgol, ymwelwyr i’r ysgol, y gymuned ehangach o gwmpas yr ysgol  - y profiadau cyfannol cyfan hynny sydd yn creu unigolyn hyfedr a hyderus yn y Gymraeg.

3.9 Elfen allweddol er mwyn sicrhau dilyniant ieithyddol o’r cynradd i’r uwchradd ac osgoi colli disgyblion i ysgolion uwchradd Cymraeg yw sicrhau nad yw plant yn llithro i ysgol uwchradd â chategori is. Yn rhy aml, gwelwn hyn yn digwydd pan fo ysgolion cyfrwng Saesneg yn agosach i gartrefi’r plant neu’n haws i’w cyrraedd o ganlyniad i ddiffyg cludiant addas a hygyrch. Mae adran 11 (4) yn rhoi cyfle yma i osod yn glir y rhagdybiaeth bod y plant yn symud i’r ysgol o’r un categori neu uwch. Bydd yr adran hon yn cryfhau gallu Awdurdodau Lleol ac ysgolion i bontio gydag ysgolion o’r un categori. Bydd yn alinio gyda’r awydd i roi cyfleoedd trochi hwyr ym mlwyddyn 7 ac 8 i ddisgyblion hefyd. Awgrymwn fod y cymal hwn yn cael ei gryfhau ymhellach gan nodi yn hytrach gan ddefnyddio’r gair “tybir” ond i’w newid i “mae yna ragdybiaeth gref” gan ddarllen fel a ganlyn:

Mewn perthynas â’r nodau dysgu Cymraeg ar gyfer ysgol gynradd, mae yna ragdybiaeth gref bod disgyblion yr ysgol yn parhau ag addysg mewn ysgolion o’r un categori iaith hyd nes iddynt beidio â bod o oedran ysgol gorfodol.

3.10 Yn amlwg, mae angen canolbwyntio’r gwaith cynllunio a hybu yn bennaf ar gyfer y trochi cynnar o’r blynyddoedd cynnar, ond weithiau daw plant i’r system addysg sydd am ymuno â’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn hwyrach. Croesawn y gydnabyddiaeth yn y Bil i ffurfioli darpariaeth addysg drochi hwyr. Rhaid sicrhau bod yn ddarpariaeth hon yn gyson ac ar gael yn y cynradd a’r uwchradd ym mhob rhan o Gymru. Rhaid bod y Bil yn sicrhau hynny. Rhaid hefyd sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chynnig i newydd-ddyfodiaid i’n cymunedau yn ddiamod yn hytrach na’u cyfeirio at addysg cyfrwng Saesneg fel sydd yn digwydd  mewn rhai ardaloedd ar hyn o bryd. Y mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru ac felly dylid adlewyrchu hynny ymhob agwedd o groesawu pobl o bob man i’n cymunedau.

3.11 Mae gosod cyfrifoldeb ar ysgolion i fod yn cynllunio darpariaeth y Gymraeg mewn ysgolion Cyfrwng Cymraeg yn digwydd yn barod ac felly ni welwn anhawster gyda hyn. Mae Cynllun Datblygu’r ysgol yn gwneud hyn yn barod. Yr hyn fyddai’n dda gweld yw bod ESTYN yn addasu eu fframwaith adolygu i adlewyrchu’r newid a fydd yn gyfrifoldeb ar ysgolion yn sgil newidiadau’r Bil er mwyn cydnabod deilliannau ieithyddol yr ysgolion a nodi’n glir sut mae ysgolion cyfrwng Cymraeg yn gosod seiliau ieithyddol cryfion yn gynnar trwy addysg drochi gyflawn.

Rhan 4: Cynllunio Addysg Gymraeg a Dysgu

3.12 Nodwyd eisoes bod angen edrych eto ar y diffiniad “addysg Gymraeg” gan fod rhan 4 yn frith o gyfeiriadau ato ac eto, nid yw’r eglur pa “addysg Gymraeg” y cyfeirir ato. Os cyfeirir y ddau fath  yna rhaid ehangu’r eglurhad ar gyfer y ddau fath neu fynd yn ôl i ailddiffinio gan ddefnyddio’r term darpariaeth. Mae’n gamarweiniol i gyffredinoli gyda’r un term.

3.13 Cytunwn gydag agweddau hybu ar gyfer addysg Gymraeg yn yr ystyr ysgolion cyfrwng Cymraeg ond pryderwn am yr elfen hybu gydag ysgolion dwy iaith. Fel mudiad, ein byrdwn yw hyrwyddo addysg drochi llawn fel bod disgyblion yn derbyn y ddwy iaith hyd at hyfedredd cyn gynted ag y bo modd. Mae angen sicrhau nad yw hybu system sydd ddim yn rhoi’r Gymraeg yn llawn i ddisgyblion yn amharu ar y gwaith o annog mwy o blant i dderbyn addysg drochi gyflawn.

3.14 Mae’r CSCAu wedi gwreiddio erbyn hyn yn system gynllunio addysg Awdurdodau Lleol ac felly croesawn yr esblygiad i’r Cynlluniau strategol lleol Cymraeg mewn addysg. Rhaid sylweddoli er hyn fod y diffiniad newydd o “addysg Gymraeg” unwaith eto yma yn gorfod ennyn eglurder pellach fel bod Awdurdodau Lleol ddim yn esgeuluso eu cyfrifoldebau i gynyddu niferoedd mewn addysg Gymraeg drochi gyflawn.

3.15 Croesawn sefydlu’r Fframwaith yn rhan 4 ond y mae bwlch arwyddocaol o amlwg yn y fframwaith hwn o ran datblygu nifer y gweithlu yn ei ffurf bresennol. Nid oes unrhyw ran o’r Bil yn dangos sut fydd gweithlu’r Gymraeg ac Addysg yn cael ei gynllunio’n strategol. Mae’n bwysig bod swyddogaethau strategol i gynyddu’r gweithlu yn amlwg ar flaen y Bil fel bod y cynllunio datblygu sgiliau ieithyddol yn gyfrifoldeb i’r Athrofa ond bod y cynllunio strategol i ddiwallu heriau'r bylchau sydd yn amlwg iawn ar hyn o bryd yn cael sylw yn y fframwaith. Awgrymwn felly bod swyddogaeth ychwanegol yn cael ei gynnwys yn adran 23(3) megis y geiriad canlynol, gan ei roi o dan (c) a cyn (d) fel ei fod yn arwain at yr elfen o

“ hyfforddiant, datblygiad proffesiynol a chefnogaeth ar gael …”

(ch) Cynyddu ac atgyfnerthu’r gweithlu addysg Gymraeg mewn ysgolion

Gellid cyplysu’r agwedd yma hefyd drwy ddatblygu is-ddeddfwriaeth bellach i gyfrifoldebau’r Cyngor Gweithlu Addysg, fe yr awgrymwyd gennym mewn ymateb i’r papur gwyn. Sut bynnag y gwneir hyn, ni allwn barhau heb gynllun â statws i ddatblygu’r gweithlu. Y mae’n gadael y cylch yn anghyflawn.

Rhan 5: Yr Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol

3.16 Croesawn sefydlu’r Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Nodwn fod gwaith y Ganolfan Genedlaethol ers ei sefydlu wedi  esbylgu’n aruthrol er mwyn ymateb i’r anghenion newidiol sydd wedi codi yn ein cymunedau - yn enwedig ers i’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ddechrau cael eu gweithredu. Mae gosod sefydlu’r Athrofa ar flaen y Bil yn hanfodol i sicrhau statws ddyledus i’r broses o gaffael a datblygu sgiliau iaith y sector addysg a’r gymuned, sydd yn hanfodol i weithrediad effeithiol y Bil hwn. Rhaid pwysleisio bod y gwaith partneriaethol y mae’r Ganolfan yn ei wneud ar hyn o bryd yn gorfod trosglwyddo i swyddogaethau’r Athrofa newydd ac felly byddai’n dda cael eglurder pellach ar hyn. Gwelwn er enghraifft y gwaith clodwiw sydd yn digwydd i hyfforddi staff yn y blynyddoedd cynnar, Camau a rhieni gyda chynllun Clwb Cwtsh mewn cydweithrediad â Mudiad Meithrin neu’r gwaith dysgu dwys gyda rhieni yn Sir Ceredigion gyda’r ysgolion trosiannol newydd a’r cynlluniau Cymraeg yn y Cartref ar gyfer ysgolion newydd megis Ysgol Gymraeg Nant Gwenlli yng Nghasnewydd ac Ysgol Gymraeg Trefynwy yn Nhrefynwy.

Mae angen eglurder pellach hefyd ar y gwahaniaeth - os oes yna, rhwng swyddogaeth yr Athrofa wrth ddarparu ar gyfer addysg gydol oes ac addysg ôl 16 mewn ysgolion. Cyfeirir yn aml yn y Bil at addysg statudol, sydd yng Nghymru’n dod i ben yn 16 oed. Beth wedyn? Mae cyfrifoldeb ariannu addysg ôl 16 mewn ysgolion yn parhau’n niwlog.

3.17 Rhaid i’r Athrofa fod yn awdurdod amlwg a chynabyddedig ar ddarparu hyfforddiant a chynllunio anghenion caffael y Gymraeg ar draws rhychwant y sector addysg a hyfforddiant - o’r blynyddoedd cynnar hyd at addysg gydol oes. Y mae cyfle gwirioneddol yma i greu corff o awdurdod sydd ag arbenigedd caffael iaith a lle i feithrin arbenigwyr y maes i’r dyfodol. Rhaid i’r swyddogaethau hyn fod yn glir o’r cychwyn.

Unrhyw rwystrau posibl i weithredu darpariaethau'r Bil ac a yw'r Bil yn eu hystyried

3.18 Rydym wedi nodi’r angen i gynnwys cymal ychwanegol yn y Bil i adlewyrchu’r angen i gynllunio cynyddu’r gweithlu mewn modd bwriadus. Heb hyn, mi fydd hi’n anodd iawn gweithredu darpariaethau’r Bil hwn. Nid yw’r Bil hwn yn ei hystyried yn ddigonol yn ein barn ni.

3.19 Mae angen cynnwys manylion ar sut y bydd data ar allu ieithyddol y gweithlu addysg yn benodol yn cael ei gasglu ac er mwyn bod yn waelodlin i weithredu llwybrau hyfedredd trwy gefnogaeth yr Athrofa.

3.20 Nid oes unrhyw gyfeiriad yn y Bil i’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 sydd yn hanfodol i sicrhau bod dysgwyr yn cyrraedd eu haddysg. Dylid rhoi ystyriaeth i’r effaith y mae hepgor hyn am ei gael i weithredu’r Bil hwn.

A oes canlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil

3.21 Pryderwn y bydd y pwyslais newydd i gynyddu darpariaeth o fewn pob ysgol yn tynnu sylw ac adnoddau oddi wrth ddatblygiad addysg cyfrwng Cymraeg. Y mae gennym yng Nghymru system drochi sydd yn creu defnyddwyr hyfedr a hyderus. Dylai’r Bil ganolbwyntio’n fwy ar ehangu’r sector hwn a gwneud darpariaeth adnoddau sylweddol i gefnogi strwythur i drosi ysgolion cyfrwng Saesneg yn Ysgolion Cymraeg.

Goblygiadau ariannol y Bil

3.22 Rhaid sicrhau nad cyllidebau presennol yn unig  fydd yn trosglwyddo i weithredu’r ddeddfwriaeth hon. Mae disgwyliadau uchel yn y Bil a fydd ond yn medru cael eu gwireddu gydag adnoddau perthnasol. Yr ydym wedi nodi absenoldeb cyfeirio at strategaeth y gweithlu ac felly bydd angen sicrhau cyllideb ar gyfer yr agwedd hon. Bydd angen buddsoddi mewn hyfforddiant i gynyddu capasiti Dylid gweld hyn ar bob lefel o Lywodraeth Cymru, yr Awdurdodau Lleol i ysgolion fel buddsoddiad arwyddocaol yn y Gymraeg ac mewn cynyddu gallu’r boblogaeth i fod yn ddinasyddion dwyieithog ac amlieithog. 

I gloi, dymunwn roi cyd-destun hygyrchedd addysg cyfrwng Cymraeg i chi fel pwyllgor. Isod fe welwch dabl y cyfrifiad ysgolion diweddaraf sydd yn dangos niferoedd yr ysgolion Cymraeg, sydd yn rhan fwyaf o siroedd Cymru yn y lleiafrif.   Pwysleisiwn fod angen cynyddu nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg fel bod mwy o blant yn caffael yr iaith mor gynnar ac mor llawn y gallant a dilyn llwybr addysg Cyfrwng Cymraeg hyd at waith fel eu bod yn gallu cymryd rhan lawn yn economi ddwyieithog Cymru.

https://www.llyw.cymru/canlyniadaur-cyfrifiad-ysgolion-ionawr-2023-html



[1] Tudalen3: https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2021- 02/canllawiau-gynlluniau-strategol-cymraeg-addysg.pdf